Mae'r bardd a'r dramodydd adnabyddus Menna Elfyn yn ymddangos mewn digwyddiad arbennig iawn dan gadeiryddiaeth Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen. Gyda gyrfa sydd dros hanner can mlynedd, mae Elfyn wedi cyhoeddi un ar bymtheg o gasgliadau o farddoniaeth ochr yn ochr â nofelau plant, dramâu, libreti a gwaith ar gyfer radio a theledu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i fwy nag ugain o ieithoedd. Mae'n Athro Emerita ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant lle bu'n cyfarwyddo'r MA mewn Ysgrifennu Creadigol am ddau ddegawd. Bu'n Fardd Plant Cymru yn 2002 ac mae'n golofnydd nodwedd gyda'r Western Mail.
Yn y digwyddiad hwn bydd Menna Elfyn yn darllen o ‘Parch’ (Bloodaxe Books, 2025), ei chasgliad cyntaf yn Saesneg, ochr yn ochr â cherddi o ‘Let the World's People Sing’, (Hmm Foundation, 2025) y casgliad barddoniaeth Arabeg-Cymraeg-Saesneg cyntaf. Mae'n anrhydedd i'r ŵyl y bydd yn sôn am rhai cerddi newydd sbon hefyd, yn cael eu darllen yn gyhoeddus am y tro cyntaf. Bydd y digwyddiad hwn yn dathlu gyrfa lenyddol anhygoel a dylanwadol.
* * *
Acclaimed poet and playwright Menna Elfyn appears in a very special festival event chaired by Bardd Plant Cymru, Siôn Tomos Owen. With a career spanning over fifty years, Elfyn has published sixteen poetry collections alongside children’s novels, plays, libretti and work for radio and television in Welsh and English, and her writing has been translated into more than twenty languages. She is Professor Emerita at University of Wales, Trinity Saint David where she directed the MA in Creative Writing for two decades. She was Poet Laureate for the Children of Wales in 2002 and is a feature columnist with the Western Mail.
In this event Menna Elfyn will read from Parch (Bloodaxe Books, 2025), her first collection in English, alongside poems from Let the World’s People Sing, (Hmm Foundation, 2025) the first Arabic–Welsh–English poetry collection. The festival is honoured that there will also be some brand-new poems, read in public for the very first time. This event celebrates an extraordinary and influential literary career.
£10