Back to All Events

Yma o Hyd - Dafydd Iwan

  • Capel Horeb 70 Rhosmaen Street Llandeilo, Wales, SA19 6EN United Kingdom (map)

This session now starts at 5pm

£8

Bilingual session - sesiwn ddwyieithog

Dafydd Iwan: Yma o Hyd Dal i ganu Yma o Hyd :
Dafydd Iwan yn trafod ei lyfr Saesneg.

Canwr, gwleidydd, pensaer, dyn busnes a phregethwr lleyg. Un o ffigyrau amlycaf Cymru.

***

Dafydd Iwan, still here, still singing.
Dafydd Iwan discussses his new book in English.

Singer, politician, architect, businessman and lay preacher. One of the most prominent Welsh figures.

***

Dafydd Iwan: Canwr gwerin enwog yn wreiddiol o Frynaman, Sir Gâr yw Dafydd Iwan. Daeth yn enwog am gyfansoddi a pherfformio cerddoriaeth werin yn Gymraeg. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Recordiau Sain Cyf, un o brif labeli cerddoriaeth Cymru, ac mae wedi cyhoeddi sawl albwm dros y degawdau.

Yn 1983, rhyddhaodd y canwr gwerin un o’i ganeuon enwocaf – “Yma o Hyd.” Rhyddhawyd y gân er mwyn “codi ysbryd,” ac i atgoffa pobl i siarad Cymraeg “er gwaethaf pawb a phopeth”. Ers hynny, mae’r gân wedi dod yn anthem answyddogol i Gymru a hefyd yn anthem answyddogol i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru.

Mae Dafydd wedi llwyddo i ddod â’r genedl gyfan ynghyd drwy ei ganeuon a’i angerdd dros Gymru. Bu ei berfformiadau o ‘Yma O Hyd’ yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod ymgyrch Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd o gymorth i symbylu’r dorf a’r tîm, gan eu gyrru i’r rowndiau terfynol yn Qatar.

Bu capten Cymru, Gareth Bale hefyd yn arwain y tîm mewn cân gyda Dafydd Iwan ar ôl y gêm olaf. Golygodd y perfformiad hwnnw a’r ffaith bod Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd bod y gân wedi dychwelyd i siart iTunes y DU am yr ail waith.

Mae nifer o bobl wedi nodi bod y perfformiad hwn yn foment o bwysigrwydd cenedlaethol.

***

Dafydd Iwan is a renowned folk singer from Brynamman, Carmarthenshire who has risen to fame writing and performing folk music in the Welsh language. He was also instrumental in the establishment of Recordiau Sain Cyf (Sain Records Ltd), one of the main Welsh music labels and has released many albums over the decades.

In 1983, the Welsh folk singer, released one of his most notable works – “Yma o Hyd.” The song, which translates to 'Still Here' in Welsh was released to “raise the spirits,” and to remind people to speak Welsh against all odds. Since then, the song has become an unofficial Welsh anthem as well as an unofficial anthem for the Wales national football team.

Dafydd has brought the whole nation together through his songs and passion for Wales. His renditions of ‘Yma O Hyd’ at Cardiff City Stadium for Wales’ World Cup qualifying campaign helped to galvanise the crowd and team, catapulting them into qualification for the finals in Qatar.

The Welsh captain, Gareth Bale also led the Welsh team singing along with Dafydd Iwan after the final match. The performance and Wales's qualification led to the song returning to number one in the UK iTunes chart for a second time.

The performance has been hailed by many as a moment of national significance.

Previous
Previous
27 April

Owen Sheers - Writing my first children's book

Next
Next
27 April

The Parade's Gone By - Julian Dutton