Back to All Events

Colli’r Plot, Recordiad Podlediad - Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros

  • Capel Horeb Rhosmaen street (map)

Colli’r Plot, Recordiad Podlediad

Ymunwch â Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey a Manon Steffan Ros ar gyfer recordiad byw o Colli’r Plot, y podlediad poblogaidd sy’n trafod ysgrifennu, creadigrwydd a’r eiliadau hynny pan mae’r edefyn yn llithro o’ch gafael.

Pedwar awdur sy’n treulio’u dyddiau’n ceisio cadw trefn ar blotiau – ac yn eu colli’n aml – yn dod at ei gilydd am sgwrs fywiog, gynnes ac hynod o ddoniol. Disgwyliwch ddigon o chwerthin, ambell safbwynt dadleuol, a rhai eiliadau o ddyfnder annisgwyl wrth iddyn nhw siarad yn onest am fywyd yr awdur.

Sgwrs Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd

Dim mynediad heb risiau na mynediad cyfleus i gadeiriau olwyn. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

£10.00

***

Join Bethan Gwanas, Dafydd Llewelyn, Siân Northey and Manon Steffan Ros for a live recording of Colli’r Plot, the popular Welsh-language podcast about writing, creativity and losing the thread. Four writers who wrestle daily with plots - and frequently misplace them - come together for a lively, warm and very funny conversation. Expect plenty of laughter, a few controversial opinions and the occasional moment of surprising depth as they talk candidly about the writing life.

This event will be in Welsh with simultaneous translation. 

No step-free or wheelchair access. We’re sorry for any inconvenience.

£10.00

Previous
Previous
25 April

Dr Wyn Thomas - Wales: Past, Present and Future

Next
Next
25 April

Alex Wharton – Bright Lives