Back to All Events

Gladiatrix - Bethan Gwanas

  • Hengwrt 8 Carmarthen Street Llandeilo, Wales, SA19 6AE United Kingdom (map)

£6

Sesiwn yn y Gymraeg - Session in Welsh with simultaneous translation

Bydd Bethan Gwanas yn dangos sut a pham aeth hi ati i sgwennu Gladiatrix, “stoncar o nofel” sy’n cychwyn tua 60-61 OC, pan ymosodd y Rhufeiniaid ar Ynys Môn er mwyn difa’r Derwyddon (mae hyn yn ffaith). Mae Rhiannon a’i chwaer yn ymladd yn ddewr ond yn cael eu dal a’u cludo i Rufain i ddysgu sut i ymladd fel gladiators (dyma’r darn sy’n ffuglen – efallai!). Myfanwy Alexander fydd yn gwneud yr holi a bydd Bethan yn dangos lluniau i ddod â’i syniadau a’i hymchwil i’r cyfnod yn fyw.

Awdur bron i 50 o lyfrau poblogaidd i blant ac oedolion. Bu’n athrawes Saesneg yn Nigeria, athrawes Ffrangeg yng Nghymru, cynhyrchydd gyda Radio Cymru a dirprwy reolwr Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn cyn dechrau ysgrifennu’n broffesiynol. Cafodd ei nofel gyntaf Amdani! ei haddasu yn gyfres deledu a sioe lwyfan; enillodd wobr Tir na n-Og yn 2001 (Llinyn Trôns) a 2003 (Sgôr), a Gwobr Goffa T Llew Jones gyda Gwylliaid. Cyrhaeddodd restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2005 gyda Hi yw Fy Ffrind. Mae ei llyfrau i ddysgwyr am Bywyd Blodwen Jones wedi gwerthu llawer o filoedd . Mae’n byw ger Dolgellau ac yn mwynhau beicio a chwmni cŵn.

Cadeirir gan: Myfanwy Alexander.

***

Bethan Gwanas will show how and why she wrote Gladiatrix, a “stonker of a Welsh language novel” which starts around 60-61 CE, when the Romans attacked Anglesey to get rid of the Druids (fact). Rhiannon and her sister fight bravely but are caught and taken to Rome to be trained as gladiators (fiction –perhaps?)

The author of almost 50 books for children and adults. Before writing professionally, she taught English in Nigeria, French and outdoor activities in Wales, was a Radio Cymru producer then the deputy manager of Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn. Her first novel Amdani! was adapted for TV and stage. Won the Tir na n-Og prize in 2001 (Llinyn Trôns) and 2003 (Sgôr), and the T Llew Jones Memorial Prize with Gwylliaid. Made the Welsh Book of the Year short list in 2005 with Hi yw Fy Ffrind. Bywyd Blodwen Jones, her trilogy for Welsh learners, has been a bestseller. She lives near Dolgellau and loves cycling and dogs.

Chaired by Myfanwy Alexander 

Previous
Previous
28 April

Broken Britain

Next
Next
28 April

Trwy’r Tannau